Rydyn ni’n Ewropeaid o bob rhan o’r cyfandir ac o amgylch y byd.
Rydyn ni am i bobl yr Alban wybod y byddai Ewropeaid ym mhob man yn eu croesawu yn ôl i’r Undeb Ewropeaidd os mai dyna eu dymuniad democrataidd o hyd.
Annwyl Benaethiaid Gwladol a Llywodraeth yr UE, Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Llywydd ac Aelodau Senedd Ewrop, Llywydd ac Aelodau’r Comisiwn,
Rydyn ni’n Ewropeaid o bob rhan o’r cyfandir ac o amgylch y byd. Yn naturiol, rydyn ni’n anghytuno ar lawer o bethau. Ond rydyn ni i gyd yn cytuno ar hyn: Rydyn ni am i bobl yr Alban wybod y byddai Ewropeaid ym mhob man yn eu croesawu yn ôl i’r Undeb Ewropeaidd os mai dyna eu dymuniad democrataidd o hyd.
Yn Refferendwm Brexit 2016, ni bleidleisiodd unrhyw ardal yn yr Alban i adael, ac ar y cyfan roedd mwyafrif o 24% o’r bleidlais dros aros yn yr UE. Yn y blynyddoedd wedi hynny, gwrthododd Senedd yr Alban bob cam o’r broses ymadael. Eto, yn 2020, tynnwyd yr Alban allan o’r Undeb Ewropeaidd ochr yn ochr â gweddill y DG.
Pan bleidleisiodd yr Albanwyr i aros yn yr UE, gwnaethant hynny fel rhan o’r Deyrnas Gyfunol. Mae gwahanu oddi wrth y DG i ddod yn aelod wladwriaeth o’r UE yn fater gwahanol. Un sy’n hawlio ei refferendwm ei hunan, y mae Senedd yr Alban a’i llywodraeth wedi gofyn yn ffurfiol amdano. Ar hyn o bryd mae llywodraeth y DG yn gwrthod caniatáu hyn.
Ni ddylem sefyll yn segur tra bo’r sefyllfa amhosib hon yn parhau.
Mae’n ddatblygiad digynsail ac mae’n gofyn i’r UE feddwl mewn ffordd newydd.
Felly, rydyn ni’n galw arnoch chi i sicrhau bod yr UE yn dangos y ffordd yn glir i’r Alban ddod yn aelod, a hynny cyn i unrhyw refferendwm ar annibyniaeth gael ei gynnal.
Y broses arferol yw i’r UE ymateb i gais am aelodaeth yn unig pan fydd yn dod oddi wrth wlad annibynnol.
Mae’r Alban yn haeddu proses wahanol. Tra’i bod yn gyfreithiol yn rhan o’r DG ni fedr llywodraeth yr Alban negodi gyda’r UE. Ond gall yr UE ddatgan nad oes angen i’r Alban wneud cais fel ymgeisydd ‘newydd’ gan ei bod eisoes wedi bod yn rhan o’r UE am amser hir.
Yn hytrach, dylai’r UE a’i aelod wladwriaethau wneud cynnig unochrog ac agored i’r Alban ailymaelodi: cynnig eithriadol i gyd-fynd ag amgylchiadau eithriadol yr Alban.
Mae’r UE eisoes wedi dangos y gall gydnabod yr amgylchiadau unigryw a grëwyd gan Brexit. Cadarnhaodd y Cyngor Ewropeaidd yn unochrog yn ei Uwchgynhadledd ar 29 Ebrill 2017 y byddai Gogledd Iwerddon yn dod yn rhan o’r UE ar unwaith pe bai ar unrhyw adeg yn y dyfodol yn pleidleisio i ymuno â Gweriniaeth Iwerddon.
Dylai’r UE gynnig cymaint â phosibl o ddilyniant i’r Alban hefyd. Mae hyn yn gofyn am feddylfryd creadigol ac ymarferol. Ŵyr neb beth fydd costau tymor byr a hirdymor Brexit i’r Alban, na’r rhai sy’n gysylltiedig â gadael y DG – yn cynnwys cyflwyno arian cyfred newydd i’r Albanwyr petaent yn dymuno hynny (p’un a wnânt ymuno â’r Euro ai peidio maes o law). Yng ngoleuni hyn, dylid cynnig termau hael i gynorthwyo cyllideb yr Alban yn ystod misoedd heriol y trawsnewid cyn iddi ailymuno â‘r UE.
Mae’r rhain yn faterion pwysig oherwydd byddant yn ei gwneud yn bosibl i unrhyw refferendwm fod yn ddewis clir, ymarferol a democrataidd i’r Alban rhwng dau undeb: yr UE neu’r DG.
Rhaid i Ewropeaid sefyll dros ddemocratiaeth bob amser. Felly, gadewch i ni roi’r dewis hwn i’r Alban. Gadewch i ni godi’n llais dros ddemocratiaeth yn yr Alban.
***
Gyd-Ewropeaid*, os gwelwch yn dda ymunwch â ni ac ychwanegwch eich enw at ein llythyr agored. Gadewch i ni ofyn i arweinwyr yr UE a’i aelod wladwriaethau gynnig ffordd hwylus i’r Alban ailymuno â’r UE!
*Ewropeaid => unrhyw un sy’n byw ac yn gweithio mewn gwlad Ewropeaidd, p’un a yw yn yr UE ai peidio, unrhyw un a gafodd ei eni mewn gwlad Ewropeaidd neu sy’n dod ohoni, neu sydd â dinasyddiaeth Ewropeaidd, lle bynnag yn y byd maen nhw nawr yn byw.
Signer – Unterschreibe – Firma – Firmar – Podpisz – Sign – Teken – Υπέγραφή – Podepsat – Tecken – Assinar – Jel
Promoted by Anthony Barnett on behalf of Europe for Scotland: c/o 272 Bath Street, Glasgow G2 4JR. Read our privacy policy here.